Page 8 - Gwyr Prospectus 2023-24
P. 8
Gofal Bugeiliol
Prif nod y drefn fugeiliol yw diogelu’r sylw angenrheidiol i bob unigolyn er mwyn sicrhau ei les a’i hapusrwydd yn yr ysgol. Y Tiwtor Dosbarth sy’n dod i gysylltiad â’r disgyblion rhan amlaf ac felly mae iddo/i ran allweddol yn y gofal arbennig iawn hwn. Teimlir ei fod yn bwysig fod gan bob disgybl rywun yn yr ysgol y gall ymddiried ynddo/i a throi ato/i i drafod unrhyw agwedd ar fywyd ysgol neu broblemau personol. Fel rhan o’r drefn fugeiliol caiff bob plentyn gyfle penodol i gael sgwrs personol gyda’i Diwtor Dosbarth yn gyson. Caiff gyfle felly i drafod unrhyw broblemau neu anawsterau sy’n codi ac sy’n achosi gofid. Atgyfnerthir gwaith y Tiwtor Dosbarth gan Bennaeth Cynnydd y Flwyddyn,y Penaethiaid Cynorthwyol, y SwyddogYmddygiadol a Chynghorydd yr ysgol. Y Swyddog Amddiffyn plant yw Mr Jeffrey Connick. Mae’r ysgol yn dilyn trefniadau “Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008”. Fel rhan o’r trefniadau, mae dyletswydd ar yr ysgol i gysylltu yn syth ag asiantaethau allanol o dro i dro. Am fanylion neu gopi o’r polisi, cysylltwch â’r ysgol.
Rydym yn cefnogi strategaeth sirol a rhyngwladol o'r enw Arfer Adferol. Nod y strategaeth hon yw meithrin ymagwedd gadarnhaol at gamymddygiad ac i wneud disgyblion i deimlo'n well amdanynt eu hunain o fewn cymuned yr ysgol. Cyflawnir hyn yn rhannol gan gyfleoedd wythnosol yn ystod sesiynau bore bugeiliol lle mae pobl ifanc a'r tiwtor dosbarth yn rhannu teimladau a barn.
Mae gan yr ysgol gwricwlwm bugeiliol pendant a neilltuir amser penodol ar gyfer hwn. Mae’n rhoi cyfle i drafod materion yn ymwneud â bywyd personol a chymdeithasol yr unigolyn, gan gynnwys perthynas â phobl eraill, addysg iechyd, gyrfau, sgiliau astudio a chyfathrebu. Rhan naturiol a phwysig o’r gwersi hyn hefyd yw Addysg Ryw.
“Clod i’r staff am eu cymorth a’u cefnogaeth effeithiol, eu haddysgu a’u sgiliau bugeiliol, eu caredigrwydd cyffredinol ac ymroddiad holl staff yr ysgol.”
5