Page 32 - Gwyr Prospectus 2023-24
P. 32

Rhai o Bolisïau’r Ysgol
Disgyblaeth
Mae ethos yr ysgol yn seiliedig ar barch at bob unigolyn sy’n perthyn i’r gymuned sy’n bodoli yma boed yn athrawon, staff cynorthwyol neu’n ddisgyblion. Mae hapusrwydd cymuned yr ysgol yn seiliedig ar ddisgwyliadau uchel. Hunan-barch, parch at eraill, cwrteisi, caredigrwydd, sensitifrwydd, cysondeb a thegwch yw prif seiliau bywyd yr ysgol. O’r athroniaeth hon y daw ein disgyblaeth.Mae egwyddorion Adfer Arferol wrth wraidd ein polisi disgyblaeth.
Cyfle Cyfartal a Chynllun Cydraddoldeb
Mae’r ysgol yn ymroddedig i egwyddor cyfle cyfartal i bawb waeth beth fo’u rhyw, eu lliw, eu cefndir ieithyddol neu eu gallu. Mae polisi cyfle cyfartal yr ysgol yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn.
Trefn Gwneud Cwyn
Awgrymir y dylid dechrau’r broses o ddatrys problemau drwy drafod gyda’r Pennaeth neu staff eraill yr ysgol mewn trafodaeth anffurfiol. Gwneir pob ymdrech i ddatrys problemau yn y math hwn o drafodaethau. Os na cheir boddhad digonol drwy wneud hynny yna gellir dilyn camau mwy ffurfiol. Gellir cael manylion llawn o swyddfa’r ysgol neu o safwe’r ysgol.
Polisi derbyn
Mae 166 o leoedd ar gael ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Mae’r ysgol yn dilyn polisi’r AALl, sydd ar gael gennym ni neu gan Adran Addysg Dinas a Sir Abertawe.
Talu am Weithgareddau
Yn gyffredinol polisi’r Corff Llywodraethol yw:
• peidio codi tâl am addysg yn ystod oriau ysgol
• gwahodd cyfraniadau gwirfoddol am ymweliadau addysgol yn
ystod y dydd – heb y rhain byddai’n rhaid cyfyngu’n ddifrifol ar
y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig
• cynnig cymorth i dalu am fwyd a llety a ddarperir i ddisgybl ar
daith breswyl yn oriau ysgol os yw’r disgybl yn derbyn Prydau
Ysgol am Ddim
• i ddisgyblion sy’n dewis derbyn gwersi offerynnol neu ganu, codir
tâl blynyddol o £150 y flwyddyn fel cyfraniad tuag at y gost.
Chwaraeon
Mae gwersi chwaraeon ac addysg gorfforol yn rhan o gwricwlwm pob blwyddyn. Rhoddir cyfle i ddisgyblion chwarae’r gemau tîm canlynol - pêl-rwyd, rownderi, hoci, rygbi, criced, pêl- droed,pêl-fasged. Chwaraeant mewn cystadlaethau rhyng- ysgolion yn wythnosol yn ystod ac ar ôl oriau ysgol. Yn ogystal ceir cyfle mewn nifer o chwaraeon eraill megis tenis, pêl-bluen, nofio, gymnasteg, traws gwlad ac ati.
29
  “Rydym wedi gwerthfawrogi yr ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael i’r plant ac rydym yn ddiolchgar i’r staff sy’n barod i roi o’u hamser yn eu trefnu.”
  










































































   30   31   32   33   34