Page 18 - Gwyr Prospectus 2023-24
P. 18

    “Gwerthfawrogwn yn fawr ymdrechion yr ysgol i’n hysbysu o bopeth sy’n cymryd lle ac sy’n ymwneud â’n plentyn.”
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) - yw’r anghenion addysgol sydd gan ddisgyblion oherwydd anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio, gwybyddiaeth a dysgu, ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol neu anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol, sy’n gwneud y ddarpariaeth addysgol arferol yn anaddas i’w gofynion. Mae gan yr ysgol gydlynydd ADY a gellir cysylltu â hi er mwyn trafod unrhyw ofidiau penodol. Mr. Rhodri Evans yw’r swyddog plant mewn gofal sy’n gyfrifol am yr agwedd hon yn yr ysgol.
Nôd yr ysgol yw sicrhau gwerth cyfartal i bob disgybl. I gyflawni hyn y mae’r ysgol yn derbyn y dylai pob unigolyn gael y cyfle i gyfranogi o gwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol beth bynnag yw’r anghenion addysgol ychwanegol ac i ddatblygu hyd eithaf ei allu o fewn y cwricwlwm hwn. I gyflawni hyn bydd yr ysgol yn:
• integreiddio’r disgyblion i sicrhau dosbarthiadau gallu cymysg ym Ml 7. Ceir uned dysgu arbennig ar gyfer plant ADY a gofynion
dysgu penodol;
• disgwyl fod pob athro yn athro ADY;
• derbyn fod gofynion arbennig gan y ddau begwn gallu mewn dosbarth gallu cymysg;
• darparu cymaint o gymorth dysgu ag sy’n bosib;
• cynnal dulliau asesu ar draws y cwricwlwm sy’n cydnabod gwendidau a chryfderau disgyblion ag anghenion addysgol ychwanegol;
• o flwyddyn 8 ymlaen, ddefnyddir setio sy’n galluogi creu grwpiau llai yn y pynciau craidd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu;
• ymgynghori a thrafod manwl gyda’r ysgolion cynradd i baratoi ar gyfer darpariaeth Blwyddyn 7;
• defnyddio’r holl asiantaethau allanol sydd ar gael i gynnig cymorth pellach ac addasu’r ddarpariaeth er mwyn cwrdd ag anghenion
unigolion.
Darpariaeth ar gyfer disgyblion Mwy Abl aThalentog (MAT)
Rydym fel ysgol am sicrhau fod disgyblion yn cyrraedd eu llawn potensial o ran gallu a thalent. Mae’r term ‘mwy galluog’ yn cwmpasu disgyblion sy’n fwy galluog yn academaidd ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol yng Nghymru, gall tua 20% o boblogaeth yr ysgol fod yn fwy galluog tra gellir ystyried y 2% uchaf yn eithriadol o alluog. Mae’r term ‘talentog’ yn cwmpasu’r rhai sy’n dangos talent arbennig mewn un maes neu feysydd mwy penodol fel sgiliau chwaraeon, cerddorol yn ogystal â sgiliau arwain a rhyngbersonol. Ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, ceisiwn gynnig cyfleoedd, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymuned yr ysgol o dan arweiniad y Cydgysylltydd MAT.
    NACE
Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn un o 31 ysgol yng Nghymru i dderbyn y wobr. Cyflwynir y Wobr Her ar gyfer gwaith o ansawdd uchel gan yr ysgol gyfan, athrawon a llywodraethwyr, wrth herio pob disgybl, gan gynnwys y rhai gyda galluoedd uchel, i gyflawni eu gorau. Adnewyddwyd y wobr yn Rhagfyr 2019.
   15
















































































   16   17   18   19   20