Page 14 - Gwyr Prospectus 2023-24
P. 14
Y Cwricwlwm
Y Defnydd a Wneir o’r Gymraeg
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac anogir a chynorthwyir yr holl ddisgyblion i’w meistroli a disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar bob achlysur.
Mae’r Gymraeg yn bwnc craidd yn yr ysgol ac felly yn rhan o gwricwlwm pob disgybl. Yn ogystal,defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu yn helaeth iawn. Dysgir yr holl destunau, ac eithrio Saesneg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ym mlynyddoedd 7-9 ac anogir y disgyblion i ddilyn cwrs Gwyddoniaeth Blynyddoedd 10-11 yn y Gymraeg. Mae cyfle i ddilyn y cwrs hwn trwy gyfrwng y Saesneg pe dymunir hynny. Felly gellid cynnig cyrsiau Gwyddoniaeth Blynyddoedd 10-13 yn y ddwy iaith.
Trefniadau’r Dysgu
Mae hyd y gwersi yn 50 munud a gweithir i amserlen pythefnos o 60 o wersi. Dysgir disgyblion Blwyddyn 7 mewn dosbarthiadau gallu cymysg. Ar gyfartaledd tua 28 o ddisgyblion fydd ym mhob grŵp dysgu. Mae methodoleg dysgu’r ysgol yn ddisgybl ganolog ac wedi ei seilio ar brofiadau gweithredol. Anogir y disgyblion i gyd- weithio, i drafod safbwyntiau, i ddatrys problemau, penderfynu ar ddulliau gweithredu ac yn gyffredinol i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae’r dull hwn o ddysgu yn rhoi cyfle i bob disgybl gymryd rhan weithredol yn ei addysgu ei hun.
Dysgu adref drwy’r Gwaith Cartref
Disgwylir i bob disgybl gyflawni Gwaith Cartref yn brydlon, yn daclus ac i’r safon uchaf posibl. Bydd y gwaith fel arfer yn cymryd tua ugain munud y pwnc a rhoddir digon o amser i’w gyflwyno. Mae gan bob disgybl ‘Lyfr Cyswllt’ a disgwylir i bob unigolyn gofnodi pob tasg gwaith cartref ynddo. Mae’r ‘Llyfr Cyswllt’ yn gymorth i gadw trefn ar dasgau ac i sicrhau nad yw gwaith yn pentyrru. Gofynnwn i rieni archwilio a llofnodi’r Llyfr Cyswllt ar ddiwedd pob wythnos fel bod modd i’r ysgol a’r cartref gadw golwg ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni.
Dimensiwn Ysbrydol yr Ysgol
Yn unol â’r gyfraith, darperir cynnwys Addysg Grefyddol y cwricwlwm trwy addoliad ar y cyd a gwersi Addysg Grefyddol i’r holl fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae gan rieni’r hawl i dynnu eu plentyn allan o’r profiadau hyn (e.e. crefyddau eraill) trwy wneud cais ysgrifenedig i’r Pennaeth.
Arweiniad a Chynghori Gyrfaol
Rhoddir llawer o sylw i Addysg Gyrfau ac i gynghori disgyblion yn ofalus ac yn fanwl. Gwahoddir ac anogir cyswllt cyson â Swyddog Gyrfau yr ysgol. Trefnir gweithgareddau yn ymwneud â’r byd gwaith gan gynnwys Entrepreneuriaeth a Menter Busnes sy’n rhan bwysig o gymhwyster y Fagloriaeth Gymreig. Bydd disgyblion Blwyddyn 12 yn hunan drefnu wythnos o brofiad gwaith a disgyblion Blwyddyn 11 a 13 yn cael cyfle i fod yn rhan o ffug-gyfweliadau a gynhelir gan gyflogwyr lleol.
Iechyd a Diogelwch
Rydym yn wyliadwrus iawn o ran materion iechyd a diogelwch. Bydd asesiadau risg yn digwydd yn yr ysgol ac ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol lle gallai peryglon godi. Mae’n rhaid adrodd am unrhyw niwed personol i’r Swyddog Iechyd a Diogelwch yr ysgol. Diweddarir awdit Iechyd a Diogelwch a Chynllun Gweithredu yn yr ysgol yn gyson. Bydd materion Iechyd a Diogelwch yn cael eu trafod yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y Corff Llywodraethu a’r Is-bwyllgor Iechyd a Diogelwch ac Adeiladau. Mae ffens yn amgylchynu safle’r ysgol gyda chamerau CCTV. Mae polisi dim ysmygu gan Ysgol Gyfun Gŵyr ar gyfer disgyblon, staff ac ymwelwyr felly nid yw ysmygu’n dderbyniol o gwbl ar dir yr ysgol. Y mae gan yr ysgol nifer digonol o doiledau yn seiliedig ar niferoedd disgyblion. Lleolir toiledau yn y rhan fwyaf o brif flociau addysgu’r ysgol. Glanheir y toiledau’n ddyddiol gan Wasanaethau Glanhau’r Awdurdod Lleol. Arolygir cyflwr y toiledau’n ddyddiol gan lanhawyr a staff y safle. Hefyd, y mae ffynhonnell o ddŵr yfed glân ar gael i ddisgyblion a staff yr ysgol ar bob adeg o’r diwrnod ysgol.
“Mae ein mab wedi ymroi ei hun yn llwyr i fywyd allgyrsiol yr ysgol ac yn barod ym Mlwyddyn 7 mae wedi derbyn profiadau gwerthfawr a chyfoethog ac edrycha ymlaen at fynd i’r ysgol bob dydd.”
11